At: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ymchwiliad Pwyllgor Arfaethedig – Awdurdodaeth ar wahân i Gymru?
Diben
1. Mae’r papur hwn yn gofyn i Aelodau gadarnhau y dylai pwnc ymchwiliad nesaf y Pwyllgor ymdrin â chael awdurdodaeth ar wahân i Gymru ac ystyried cylch gorchwyl yr ymchwiliad a chytuno arno.
Cefndir
2. Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad ar gael awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn dilyn yr ymchwiliad cyfredol ar y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU. Mae’r Pwyllgor wedi gorffen casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw a byddai nawr yn amser da i’r Aelodau gytuno ar gylch gorchwyl i’r ymchwiliad ar gael awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
3. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi rhoi papur briffio ar wahân i’r Aelodau sy’n cynnwys gwybodaeth gefndir fanylach ar y mater, yn ogystal â’r cylch gorchwyl drafft a rhestr o’r tystion posibl. Os yw’r Aelodau’n fodlon, bydd cais am dystiolaeth yn cael ei gyhoeddi cyn toriad y Nadolig gyda’r bwriad o ddechrau casglu tystiolaeth lafar ar ddechrau’r flwyddyn newydd.
4. Y cylch gorchwyl arfaethedig yw:
“Cyfrannu at y ddadl gyhoeddus ar yr angen am awdurdodaeth ar wahân i Gymru drwy gasglu tystiolaeth arbenigol ar:
· ystyr y term “awdurdodaeth ar wahân i Gymru”
· y ddadl o blaid ac yn erbyn cael awdurdodaeth ar wahân i Gymru;
· goblygiadau ymarferol cael awdurdodaeth ar wahân ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol a’r cyhoedd;
· sut mae awdurdodaeth ar wahân, gan ddefnyddio’r gyfraith gyffredin, yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon; a
Chyflwyno adroddiad yn cynnwys argymhellion i’r Cynulliad.”
Argymhelliad
5. Gwahoddir Aelodau:
· i gytuno y dylai ymchwiliad nesaf y Pwyllgor fod ar y cwestiwn o gael awdurdodaeth ar wahân i Gymru; ac
· i gytuno ar y cylch gorchwyl drafft a nodir uchod.
Steve George
Clerc y Pwyllgor Tachwedd 2011